O ie! Pellach!! Hwrei

Dw i eisiau dechrau'r blog hwn unwaith eto achos dw i wedi bod yn dysgu mwy o Gymraeg yn ddiweddar ac yn teimlo fel taswn i'n angen rhywle i defnyddio'r iaith. Roedd mwy nag un rhesymau pam stopiais i o flaen. Ro'n i'n gweithio llawer bob dydd yn Gymraeg a doedd dim digon o amser spar gyda fi i gadw rhywbeth fel hyn yn mynd. Nawr, ar ôl pasio'r arholiad sylfaen gyda gradd A ac yn dechrau y 'cwrs pellach', dw i'n teimlon mwy err... ( I had to look this one up ) GALLUOG.

Cafodd y cwrs pellach ei ddechrau ar y 2fed o Gorffenaf ac bydd yn gorffen ar y 27fed o'r un mis. Ond mae'n llawn amser, dwys iawn, o 9 y bore i 5 y prynhawn. Pedairwaith y cyflymder yr wlpan gwnes i. Felly, ar ôl bob dydd dw i fel taswn i'n boddi mewn Cymraeg, gormod o eiriau newydd, gormod o brawddegau yn fy mhen ac mae dal gwaith cartref i wneud bob nos! Ond mae'n hwyl iawn achos dw i eisiau hoffi dysgu yn gyflym erioed, yn yr wlpan teimlais i fel cael yr uned nesa trwy'r amser. Ar ôl y pedair wythnos, bydda i'n edrych ymlaen i wneud y cwrs uwch. Gallwn i wneud e'n sych ar ôl y pellach, pedair wythnos arall. Ond dw i'n angen amser i ....consolidate..... popeth o'r pellach yn gyntaf.

Ar y cwrs, mae pedwar o bobl o'r Ariannin! Cymraeg gyda acen Sbaeneg? Arbennig! Roeddwn nhw'n lwcus achos cawson nhw gefnogi o'r fath arian i ddod. Am y dyddiau cyntaf, ro'n i mewn err... awe of them. Pan mae pobl sy'n byw yng Nghymru can't be arsed ond mae pobl sy'n dod o'r Ariannin ac America yn rhoi eu gorau, dw i'n teimlo'n drist amdano. Felly dewisais i i dreulio amser gyda nhw i helpu nhw ac yn dysgu mwy. Mae un dyn sy ddim yn gallu siarad Saesneg o gwbl, felly yn y dosbarth does dim llawer o Saesneg. Yn yr wythnos cyntaf, does dim Saesneg o gwbl. Cafodd pob gair eu hesbonio yn Gymraeg! Roedd e'n ychydig anodd ond rili defynyddiol.

Ddoe, aethon ni i'r Bae Caerdydd gyda'r pobl o'r bob cwrs arall, wlpan, uwch, meistroli ac yn o blaen. Cawson ni daith swyddogol o gwmpas yr adeilad yn Gymraeg. Siaradodd y menyw yn gyflym iawn ond deallais i llawer achos ro'n i'n gallu llenwi y bylchau yn fy mhen. Mae'r adeilad yn arbennig iawn. Am y tro cyntaf, deallais i'r gerdd ar y blaen....

"Creu gwir fel gwydr o ffwrnais awen"

and

"In these stones horizons sing"

Reading it bi-lingually and left to right, top to bottom, it almost reads...

"Creating truth in these stones like glass horizons from the furnace of inspirational song"

Dw i'n disgwyl roedd hynny yn bwriadol.

Wel, gobeithio ysgrifenna i mwy achos dw i eisiau darllen dros popeth yn y dyfodol ac yn weld fy ngwelliant!

2 sylwadau:

Blogger Rhys Wynne said...

Iei, croeso'n ôl a llongyfarchiadau ar y gradd 'A' gyda'r Wlpan.

10:29 am  
Anonymous Anonymous said...

O'r diwedd! Neis i dy weld di'n ôl :)

Telsa

5:44 pm  

Post a Comment

<< Home