Gormod o Pethau

Ffiw! Dw i wedi bod yn brysur yr wythnos ma. Ers fy mhost diwetha dw i wedi wneud llawer! Nos iau cyn diwetha, es i i weld 'Tool' yn y CIA, roedden nhw'n bloody amazing a chwaraeon nhw gud o fy hoff cânau.

Dw i wedi bod dysgu am home dialysis trwy'r amser a rhaid i mi godi pob dydd a mynd i'r ysbyty. Wedyn, ar ôl i mi orffen, dw i wedi blino a eisiau i mi gysgu ond rhaid i mi fynd i Gaerdydd am y dosbarth wlapn.

Nos wener, bues i yn y Mochyn Du. Roedd ofn arno i, achos roedd e fy nhro cynta yna. Ond pan cyraeddodd Britt aethon ni mewn a dechraeon ni yfed a siarad. Cyn bo hir, ymlaciais i a ro'n ni wedi siarad llawer yn Cymraeg. Ymarfer da! Rhaid i pawb yn y cwrs fynd, dw i'n meddwl. Dw i'n edrych ymlaen i'r tro nesa.

Hefyd, nos llun roedd y gig Dragonforce yn y undeb myfyrwyr prifysgol Caerdydd. Cyn i mi fynd i Gaerdydd ces i e-bost. Ddwedodd rywun dw i'n gallu tynnu lluniau am Firewind ac All That Remains.



FIREWIND
FIREWIND
ALL THAT REMAINS
Un peth arall. Ces i e-bost o Radio Cymru ddoe. Mae nhw eisiau'n dweud gyda dysgwr o Borthcawl/Pen-y-Bont yr wythnos nesa. Dw i ddim yn siwr os bydda i'n dweud 'YES' eto. Bydda i nerfus iawn. Dw i ddim yn gwybod os mae nhw eisiau siarad â fi yn Gymraeg. Gewn weld!

0 sylwadau:

Post a Comment

<< Home