Pellach Uned 1

Dw i'n benderfynol mynd dros y gwaith cartref o gyrsiau gorffennol achos pan o'n i'n neud y cwrs Pellach, wnes i ddim byd ohonyn nhw! Ti'n methu roi bai arno i achos ro'n i'n mynd i'r dosbarthiadau trwy'r dydd i gyd, bob dydd, am fis!

Os nad oes bywyd gyda chi a chi'n darllen fy mlog, plis plis plis sylwi a chywiro popeth!

Felly dyma'r atodiad gwaith cartref 1...


Ysgrifennwch baragraff amdanoch chi eich hun.


Owen dw i. Owen Richards ydy fy enw llawn. Dw i'n enedigol a dal yn byw ym Mhorthcawl ar lan y môr. Ces i fy ngeni ym 1984 felly dw i'n 23 erbyn hyn. Dw i wedi bod yn dysgu'r Gymraeg ers mis Media 2006 a wedi bod yn dysgu'n ddwys. Dw i'n trio ymarfer gyda fy nghariad hardd achos mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl ond mae'n anodd. Mae'n teimlo fel mae gormod ar ôl i ddysgu. Tu hwnt dysgu Cymraeg dw i'n hoffi tynnu lluniau o fandiau (ydy hon sut i ddweud "take pictues of"?) a sgrifennu tipyn fel golygydd. Basai'r sefyllfa delfrydol i fod yn ffotograffydd sy'n codi digon o arian saethu bandiau o ddydd i ddydd ond dyw bywyd mor syml a hynny yn anffodus. Hefyd, dw i'n aros am drawsblaniad aren achos ces i "renal failure" rhywbryd yn 2005 a dechreuais i ddeialeisi/dialysing. Mae rhaid dialyse pedair waith yr wythnos am tri awr neu fwy ar y tro felly dw i'n cymryd mwy na 14 awr yr wythnos mas o fy mywyd i gadw'n fyw. Mae'n anodd ond mae dysgu Cymraeg yn teimlo'n anos weithiau.

Tara

3 sylwadau:

Blogger XX said...

Owen dw i. Owen Richards ydy fy enw llawn. Dw i'n enedigol o a dal yn byw ym Mhorthcawl ar lan y môr. Ces i fy ngeni ym 1984 felly dw i'n 23 erbyn hyn. Dw i wedi bod yn dysgu'r Gymraeg ers mis Medi 2006 a wedi bod yn dysgu'n ddwys. Dw i'n trio ymarfer gyda fy nghariad hardd achos mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl ond mae'n anodd. Mae'n teimlo fel bod gormod ar ôl i ddysgu. Tu hwnt i ddysgu Cymraeg dw i'n hoffi tynnu lluniau o fandiau (ai dyma sut i ddweud "take pictues of"?) a sgrifennu tipyn fel golygydd. Y sefyllfa ddelfrydol fasai bod yn ffotograffydd sy'n codi digon o arian yn / drwy saethu bandiau o ddydd i ddydd ond dyw bywyd ddim mor syml a hynny yn anffodus. Hefyd, dw i'n aros am drawsblaniad aren achos ces i "renal failure" rhywbryd yn 2005 a dechreuais i ddeialeisi/dialysing. Mae rhaid gwneud 'dialysis' bedair gwaith yr wythnos am dair awr neu fwy ar y tro felly dw i'n cymryd mwy na 14 awr yr wythnos mas o fy mywyd i gadw'n fyw. Mae'n anodd ond mae dysgu Cymraeg yn teimlo'n anos weithiau.

Os ti ddim yn deall unrhywbeth 'dwi wedi cywiro, gofynna i fi...

10:35 pm  
Blogger XY said...

iei diolch Rhian

10:47 pm  
Blogger Cer i Grafu said...

Shwmai Owen - gweld dy gyfraniad ar 'Maes-e' a meddwl popo draw.

Rwyt ti i weld yn ffoi ffein a 'sdim byd yn bod ar dy Gymraeg o gwbwl - paid a galw dy hunan yn ddysgwr 'chwaith; bysa'r un Sais ne' Sbaenwr ne' bwy bynnag yn galw rhywun sy'n dysgu Sysnag ne' Sbaeneg yn 'ddysgwr'. Dysgu mamiaith ne' ail-iath odyn ni i gyd ar hyd oes.

Own i'n arfadd mynd i Borthcawl pan own i'n grwt am fod 'nhad yn aelod o'r 'Con Club' a'r 'Labour Club' a phob clwb arall a gwed y gwir - ac yn y dyddiau 'na, oen nhw'n trefnu trips ar lan y mor i'r plant - plant y clybiau i Borthcawl a phlant y capeli i Barry Island.

Diolch i Dduw bo' 'nhad yn lico yfed - mae Porthcawl yn lle da - wn i'm am Barry Island!!

Pob lwc iti foi.

7:06 pm  

Post a Comment

<< Home