Cwrs Pellach

Yn y post 'ma bydda i'n defnyddio Cymraeg a Saesneg oherwydd pan rhaid i mi esbonio rhywbeth anodd, dw i eisiau dweud popeth yn glir...

Yn ystod y cwrs Pellach, ro'n i wedi blino bob nos ar ôl 9-5 o ddysgu dwys ffeindiais i siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg anodd iawn. Dyna pam, ysgrifennais i ddim ers dechrau'r cwrs. Ond nawr, bydd rhaid i mi ymarfer pan dw i'n gallu, felly gobeithio bydda i'n sgrifennu mwy.

Teimlais i fel bob dydd - I had reached my "shit-point" (diolch Carol) cyn y prynhawn! Y "shit-point" yw pan chi ddim yn gallu dysgu mwy achos chi wedi ceisio dysgu gormod ar un pryd. Gwnes i'r cwrs Pellach ond dw i ddim yn teimlo fel dw i wedi datblygu cymaint.

I understand that with all sorts of disciplines that require learning that people go through peaks and troughs. If anything, I think I peaked quite early in my self confidence. After the WLPAN I felt that everything we had learnt had gone in with no problems at all. I felt confident enough to speak to people in Welsh even though it quite often felt very strange and awkward. This is all down to knowing people that are fluent and being in situations where I had to listen in Welsh. I witnessed someone else reach this point of self confidence in the Pellach.

Matt "Moron" Redd

He would remark on how he'd only been doing it for a year (like me) and that he now felt like he can talk to people in Welsh outside of class and he had no intention of hiding his self satisfaction (and rightly so, it's a tough thing learning Welsh!). I, on the other hand, felt like I'd been where he was months prior. We were at the same level of understand in Welsh I'd say, but my confidence had dipped during the Pellach. It was one of those situations where someone could chip in and say the old cliche half empty/half full glass line. So I decided not to let myself get frustrated, no matter how hard I was finding it. Learning a language is more than just absorbing words, phrases, rules and mutations. That's the first stage. In all honesty I doubt that ever stops happening, after all... who speaks English perfectly? I think the challenge comes from trying not to treat Welsh as the second language. Fluency, in my eyes, is the ability to think in that language as freely as your first language. It's then only the words you don't understand and the grammatical forms you haven't yet learnt that are stopping you.

Wel, dyma fy ffrindiau newydd sbon o'r cwrs...

Cwrs Pellach

Ar y diwedd y cwrs aethon ni mas i'r Pen & Wig yng Nghaerdydd i ddathlu pedair wythnos o waith galed. Canon ni caneuon fel 'Frans o wlad Awstria', 'Oes gafr eto?' a 'Mae hen wlad fy nhadau'. Yfon ni ormod o gwrw a seidr a bwyton ni lawer o sglodion. Ro'n ni'n agos iawn fel dosbarth Cymraeg ar ôl dim ond 4 wythnos.
Y Dysgwyr Gorau

Iechyd Da!

Wedi Meddwi

Mae dysgu Cymraeg yw profiad i gwrdd a phobol newydd a dysgu amdanyn nhw. Mae'n ysbrydoliaeth i gael tiwtoriaid sy'n teimlo'n angerddol am y hanes Cymru a'r iaith Chymraeg ac am siarad Cymraeg fel dysgwyr. Dyna'r peth sy'n wahanol rhwng ysgolion (wel... yr ysgol lle es i) a'r cyrsiau oedolion. Mae penderfyniad gyda phobol sy eisiau dysgu fel oedolion dw i'n credu. Dwedodd un tiwtor bod pobol sy'n dysgu Cymraeg yn ddwys HEROES neu WEIRDOS. Dw i'n meddwl bod hi'n gywir ond beth bynnag, mae pawb yn bobol arbennig!

Mae pobol o'r Ariannin yn wneud y cwrs nesa ar hyn o bryd, y cwrs Uwch. 8 WYTHNOS - 9 i 5!!!! Chwarae teg! Felly dw i'n gallu cwrdd a nhw, weithiau yn y Mochyn Du! A gobeithio, ym mis medi, pan wnaf i'r cwrs Uwch, bydd pobol o'r Pellach yna hefyd! Tan hynny, rhaid i mi ymarfer!!

O ie! Pellach!! Hwrei

Dw i eisiau dechrau'r blog hwn unwaith eto achos dw i wedi bod yn dysgu mwy o Gymraeg yn ddiweddar ac yn teimlo fel taswn i'n angen rhywle i defnyddio'r iaith. Roedd mwy nag un rhesymau pam stopiais i o flaen. Ro'n i'n gweithio llawer bob dydd yn Gymraeg a doedd dim digon o amser spar gyda fi i gadw rhywbeth fel hyn yn mynd. Nawr, ar ôl pasio'r arholiad sylfaen gyda gradd A ac yn dechrau y 'cwrs pellach', dw i'n teimlon mwy err... ( I had to look this one up ) GALLUOG.

Cafodd y cwrs pellach ei ddechrau ar y 2fed o Gorffenaf ac bydd yn gorffen ar y 27fed o'r un mis. Ond mae'n llawn amser, dwys iawn, o 9 y bore i 5 y prynhawn. Pedairwaith y cyflymder yr wlpan gwnes i. Felly, ar ôl bob dydd dw i fel taswn i'n boddi mewn Cymraeg, gormod o eiriau newydd, gormod o brawddegau yn fy mhen ac mae dal gwaith cartref i wneud bob nos! Ond mae'n hwyl iawn achos dw i eisiau hoffi dysgu yn gyflym erioed, yn yr wlpan teimlais i fel cael yr uned nesa trwy'r amser. Ar ôl y pedair wythnos, bydda i'n edrych ymlaen i wneud y cwrs uwch. Gallwn i wneud e'n sych ar ôl y pellach, pedair wythnos arall. Ond dw i'n angen amser i ....consolidate..... popeth o'r pellach yn gyntaf.

Ar y cwrs, mae pedwar o bobl o'r Ariannin! Cymraeg gyda acen Sbaeneg? Arbennig! Roeddwn nhw'n lwcus achos cawson nhw gefnogi o'r fath arian i ddod. Am y dyddiau cyntaf, ro'n i mewn err... awe of them. Pan mae pobl sy'n byw yng Nghymru can't be arsed ond mae pobl sy'n dod o'r Ariannin ac America yn rhoi eu gorau, dw i'n teimlo'n drist amdano. Felly dewisais i i dreulio amser gyda nhw i helpu nhw ac yn dysgu mwy. Mae un dyn sy ddim yn gallu siarad Saesneg o gwbl, felly yn y dosbarth does dim llawer o Saesneg. Yn yr wythnos cyntaf, does dim Saesneg o gwbl. Cafodd pob gair eu hesbonio yn Gymraeg! Roedd e'n ychydig anodd ond rili defynyddiol.

Ddoe, aethon ni i'r Bae Caerdydd gyda'r pobl o'r bob cwrs arall, wlpan, uwch, meistroli ac yn o blaen. Cawson ni daith swyddogol o gwmpas yr adeilad yn Gymraeg. Siaradodd y menyw yn gyflym iawn ond deallais i llawer achos ro'n i'n gallu llenwi y bylchau yn fy mhen. Mae'r adeilad yn arbennig iawn. Am y tro cyntaf, deallais i'r gerdd ar y blaen....

"Creu gwir fel gwydr o ffwrnais awen"

and

"In these stones horizons sing"

Reading it bi-lingually and left to right, top to bottom, it almost reads...

"Creating truth in these stones like glass horizons from the furnace of inspirational song"

Dw i'n disgwyl roedd hynny yn bwriadol.

Wel, gobeithio ysgrifenna i mwy achos dw i eisiau darllen dros popeth yn y dyfodol ac yn weld fy ngwelliant!