Pellach Uned 2

Helo pawb. Dyma'r gwaith cartref nesa. Achos dw i'n mynd i gael cyfweliad ar gyfer bod dysgwr y flwyddyn, a mae'r prif bwnc yw hynny.... dylwn i sgrifennu rhywbeth sy'n werth darllen!

Ysgrifennwch baragraff am sut dych chi wedi dysgu Cymraeg.

Cyn i mi ddechrau dysgu Cymraeg, ro'n i'n di-waith, ro'n i'n di-gariad a theimlo fel ro'n i'n di-bwrpas. Ro'n i newydd raddio o brifysgol yn Abertawe ar ôl cymryd blwyddyn mas i dod i arfer bod yn berson sy'n angen dialysis. Ar yr un pryd roedd diddordeb da fi mewn merch oedd yn siarad Cymraeg. Ro'n i'n llwyddiannus i ofyn iddi hi i dod i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe gyda fi. Felly 'na oedd y tro cyntaf es i ar y maes yr eisteddfod. Yn erbyn hynny, roedd Glyn Wise ar Big Brother ac yn neud yn dda. Roedd hynny tipyn o ysbrydoliaeth hefyd i fod yn onest. Ro'n i'n mor grac pan clywais i fod problemau gyda Glyn ac Imogen yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd a dyna un peth oedd yn neud i fi'n meddwl am yr iaith. Erbyn yr eisteddfod ro'n i'n benderfynol i ddechrau dysgu ond ro'n i'n deall pa mor bwysig yw hi i neud pethau fel hyn yn dda. Does dim pwynt mynd i ddosbarthiadau unwaith yr wythnos neu dim ond gwylio S4C pan mae rhywbeth gyda iselteitlau. Felly ro'n i'n barod i siopa o gwmpas i chwilio am gwrs dwys. Des i o hyd i'r pabell prifysgol Caerdydd a siaradais i â pherson oedd yn gweithio ynddo fe am y cwrs WLPAN. Nes i glywed am y cwrs hwn ond do'n i ddim yn gwybod ble i'w neud e. Dewisais i i neud y cwrs mwya dwys yn y prospectws felly ro'n i'n mynd i fynychu dosbarthiadau 5 noson yr wythnos am 9 mis.

Bolocs... dw i wedi sgrifennu llawer yn barod. Felly dof i nôl at hynny yn y dyfodol agos, achos mae'n 3yb nawr a fi'n moyn cwsg. Mae post hwn yw'r rhan cyntaf o gyfres o fy stori dysgu Cymraeg te. Nos da

Pellach Uned 1

Dw i'n benderfynol mynd dros y gwaith cartref o gyrsiau gorffennol achos pan o'n i'n neud y cwrs Pellach, wnes i ddim byd ohonyn nhw! Ti'n methu roi bai arno i achos ro'n i'n mynd i'r dosbarthiadau trwy'r dydd i gyd, bob dydd, am fis!

Os nad oes bywyd gyda chi a chi'n darllen fy mlog, plis plis plis sylwi a chywiro popeth!

Felly dyma'r atodiad gwaith cartref 1...


Ysgrifennwch baragraff amdanoch chi eich hun.


Owen dw i. Owen Richards ydy fy enw llawn. Dw i'n enedigol a dal yn byw ym Mhorthcawl ar lan y môr. Ces i fy ngeni ym 1984 felly dw i'n 23 erbyn hyn. Dw i wedi bod yn dysgu'r Gymraeg ers mis Media 2006 a wedi bod yn dysgu'n ddwys. Dw i'n trio ymarfer gyda fy nghariad hardd achos mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl ond mae'n anodd. Mae'n teimlo fel mae gormod ar ôl i ddysgu. Tu hwnt dysgu Cymraeg dw i'n hoffi tynnu lluniau o fandiau (ydy hon sut i ddweud "take pictues of"?) a sgrifennu tipyn fel golygydd. Basai'r sefyllfa delfrydol i fod yn ffotograffydd sy'n codi digon o arian saethu bandiau o ddydd i ddydd ond dyw bywyd mor syml a hynny yn anffodus. Hefyd, dw i'n aros am drawsblaniad aren achos ces i "renal failure" rhywbryd yn 2005 a dechreuais i ddeialeisi/dialysing. Mae rhaid dialyse pedair waith yr wythnos am tri awr neu fwy ar y tro felly dw i'n cymryd mwy na 14 awr yr wythnos mas o fy mywyd i gadw'n fyw. Mae'n anodd ond mae dysgu Cymraeg yn teimlo'n anos weithiau.

Tara